Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | MapleMusic Recordings |
Dod i'r brig | 1992 |
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Genre | cerddoriaeth roc caled, roc amgen, ôl-Britpop |
Yn cynnwys | Stuart Cable |
Gwefan | http://www.stereophonics.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc Cymreig a ffurfiwyd ym 1992 yng Nghwmaman, Cymru yw'r Stereophonics. Ar hyn o bryd, mae aelodau'r band yn cynnwys y prif leisydd a'r gitarydd Kelly Jones, chwaraewr y gitâr bâs a'r lleisydd cefndirol Richard Jones, y drymiwr Jamie Morrsion, gitarydd a lleisydd cefndirol Adam Zindani a'r aelod teithiol Tony Kirkham (allweddellau). Yn wreiddiol roedd y grŵp yn cynnwys y drymiwr Stuart Cable hefyd. Mae'r Stereophonics wedi rhyddhau wyth albwm stiwdio, gyda phump ohonynt yn cyrraedd brig Siart Albymau'r DU. Rhyddhawyd ei seithfed albwm, Keep Calm and Carry On ym mis Tachwedd 2009 ond ni gyrhaeddodd y Deg Uchaf. Rhyddhawyd albwm lwyddiannus o'u caneuon enwocaf ym mis Tachwedd 2008 – Decade in the Sun a gyrhaeddodd rif 2 ar siart y Deyrnas Unedig. Mae'r band yn rhan o sîn gerddorol Caerdydd.