Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Croesan

Croesan
Dyn mewn gwisg ystrydebol croesan ym Mhasiant Llanfair-ym-Muallt (1909).
Enghraifft o'r canlynolhen broffesiwn, stock character Edit this on Wikidata
Mathdiddanwr, digrifwr, jongleur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Digrifwr a gedwid yn hanesyddol i adlonni teulu brenhinol neu lys brenhinol neu bendefigaidd yw croesan,[1] ysgentyn,[2] digrifwas,[3] neu ffŵl. Gellir olrhain gwreiddiau'r ffŵl yn ôl i'r Henfyd, ac mae rôl y digrifwr llys yn dyddio'n ôl i pharoaid yr Hen Aifft.

Daeth ffigur y croesan yn gymeriad pwysig mewn llên a theatr, gan esgor ar draddodiad o lenyddiaeth y ffŵl a flodeuai o'r 15g i'r 17g. Yn Lloegr, daeth y croesan yn gymeriad cyffredin ar y llwyfan yn oesoedd Elisabeth ac Iago, gan gynnwys comedïau, trasiedïau, a dramâu hanes William Shakespeare: Touchstone yn Bid Wrth Eich Bodd, Feste yn Nos Ystwyll, a'r cellweiriwr dienw yn King Lear. Cyhoeddodd yr actor digrif Robert Armin, a bortreadai nifer o ffyliaid Shakespeare, hanes o groesaniaid o'r enw Foole upon Foole.

  1.  croesan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Medi 2019.
  2.  ysgentyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Medi 2019.
  3.  digrifwas. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Medi 2019.

Previous Page Next Page






Narr ALS مزاح Arabic Təlxək AZ Блазан BE Шут Bulgarian Dvorska luda BS Bufó Catalan Šašek Czech Nar Danish Narr German

Responsive image

Responsive image