Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | meicro-organeb, pathogen |
Safle tacson | Parth (bioleg) |
Rhiant dacson | Biota |
Yn cynnwys | viral genome, viral capsid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Organeb (pathogen) bychan iawn yw firws (neu ar lafar 'feirws') sy'n medru byw oddi fewn i organeb fyw arall yn unig.[1]
Cyhoeddodd Dmitri Ivanovsky yn 1892 erthygl yn disgrifio pathogen nad oedd yn facteri a oedd yn heintio planhigion tybaco; roedd yr erthygl mewn gwirionedd yn disgrifio Martinus Beijerinck a ddarganfyddodd y feiwrs hwn yn 1898, ac ers hynny mae tua 5,000 gwahanol fathau wedi'u disgrifio mewn peth manylder. Gwyddir hefyd fod miliynau o wahanol fathau ar gael nad ŷnt wedi'u cofnodi'n fanwl.[2] Fe'i canfyddir ym mhob ecosystem dan haul ac mae mwy ohonynt nac unrhyw organeb arall.[3][4] Gelwir yr astudiaeth o firysau yn firoleg sy'n isddosbarth o ficrobioleg.
Mae sut y maent wedi tarddu (o ran hanes esblygiad bywyd) yn niwlog. Ceir dau bosibilrwydd: yn gyntaf, gallant fod wedi esblygu allan o blasmidau (darnau bychain o DNA) a all symud o un gell i'r llall. Yr ail bosibilrwydd yw iddynt esblygu allan o facteria. Credir hefyd eu bont yn ddull pwysig o drawsffurfio genynol llorweddol - sy'n beth da o ran bioamrywiaeth.[5]
Mae'r firws yn lledaenu mewn sawl ffordd; mae pryfaid fel yr affid yn eu trosglwyddo o blanhigyn i blanhigyn; pryfaid sy'n sugno gwaed (fectorau) sydd hefyd yn gyfrifol am eu trosglwyddo o anifail i anifail a thrwy'r awyr e.e. mae'r firws ffliw yn cael ei drosglwyddo drwy beswch neu disian. Mae'r norofirws a'r rotofirws yn ymledu drwy gyffyrddiad: o ymgarthion i'r ceg o berson i berson. Gallant fynd i mewn i'r corff mewn dŵr neu fwyd. Dull arall o ymledu ydy drwy gyffyrddiad rhywiol fel y gwna'r firws HIV.
Mae gan firysau gyfnodau 'cwsg' hefyd ble gallant gyfuno â DNA niwclear, gan ailymddangos fel ffurf ffyrnig yn ddiweddarach, yn aml pan fydd ymwrthedd yr organeb yn isel. Dyma pam, er enghraifft, os ydych wedi cael brech yr ieir, gallwch gael yr eryr yn ddiweddarach - mae firws brech yr ieir wedi ymgyfuno â'ch DNA ar ffurf cwsg gan ailymddangos fel yr eryr pan fod eich ymwrthedd yn isel.[6]
|accessdate=
(help)