ḏḥwty Thoth | |
---|---|
Thoth, fel dyn pen ibis | |
Canolfan gwlt bwysig | Hermopolis |
Symbolau | Ibis, disg y lleuad, sgrôl papurfrwyn, ysgrifbinnau cyrs, palet ysgrifennu, stylus, babŵn, gloriannau |
Cymar | Seshat,[1] Ma'at, Nehemtawy[2] |
Rhieni | Neb (creodd ef ei hun); fel arall Neith neu Ra neu Horws ac Hathor |
Plant | Seshat yn ôl ambell ffynhonnell |
Duw o'r Hen Aifft yw Thoth (o'r Roeg Θώθ thṓth; sy'n dod o'r Aiffteg ḏḥw.ty). Yn y celfyddydau, gwelir ef fel arfer yn ddyn gyda phen ibis neu fabŵn, anifeiliaid sy'n sanctaidd iddo. Seshat oedd ei wrthran fenywaidd, a Maat oedd ei wraig.[3]
Lleolwyd prif deml Thoth yn ninas Khmun,[4][5] a alwyd yn Hermopolis Magna yn ystod cyfnod y Groeg-Rufeinig[6] (roeddent yn ei gysylltu â'u duw nhw, Hermes) a ϣⲙⲟⲩⲛⲉⲓⲛ Shmounein yn y Gopteg. Dinistriwyd Khmun yn rhannol ym 1826.[7] Yn y ddinas honno, Thoth oedd arweinydd yr Ogdoad, wyth duw pwysig a gafodd eu haddoli yn Hermopolis. Roedd hefyd ganddo nifer o gysegrfeydd yn ninasoedd Abydos, Hesert, Urit, Per-Ab, Rekhui, Ta-ur, Sep, Hat, Pselket, Talmsis, Antcha-Mutet, Bah, Amen-heri-ab, a Ta-kens.
Roedd Thoth yn chwarae llawer o rolau pwysig ac amlwg ym Mytholeg yr Aifft, megis cynnal y bydysawd, a bod yn un o ddau dduw ( Maat oedd y llall) a oedd yn sefyll ar naill ochr cwch Ra.[8] Yn hwyrach yn hanes yr Hen Aifft, daeth Thoth yn gysylltiedig â chyflafareddu rhwng duwiau,[9] hudoliaeth, y system o ysgrifennu, datblygu gwyddoniaeth,[10] a beirniadu'r meirw.[11]