Enghraifft o'r canlynol | iaith, minority language, macroiaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Southern Romance |
Label brodorol | sardu |
Enw brodorol | sardu |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | sc |
cod ISO 639-2 | srd |
cod ISO 639-3 | srd |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith Romáwns a siaredir ar ynys Sardinia yw Sardeg[2] (Sardu neu limba sarda yn yr iaith hon). Gwelir weithiau Sardineg yn y Gymraeg. Dyma'r iaith â'r pellter ffonolegol lleiaf o'r Lladin.[angen ffynhonnell]
Siaredir Sardeg yn y rhan fwyaf o'r ynys, ond gwelir bod Catalaneg yn iaith hanesyddol a lleiafrifol o fewn dinas Alghero yng ngogledd orllewin yr ynys. Yn rhai o'r ynysoedd bychain i'r gorllewin, yn nhalaith Carbonia-Iglesias, siaredir Tabarchino, tafodiaith Ligwriaidd. Mae tua 80% o drigolion Sardinia yn deall Sardeg ac mae'n well gan rhwng 65 a 70% ei ddefnyddio ond ceir gostyngiad yn ei defnydd ymysg cenedlaethau iau.