Math | cymuned, maestref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gwynllyw |
Poblogaeth | 8,034 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5822°N 2.99°W |
Cod SYG | W04000827 |
Cod OS | ST315875 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au y DU | Jessica Morden (Llafur) |
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Pilgwenlli (Seisnigiad: Pillgwenlly).[1] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,333.
Saif i'r de o ganol y ddinas, lle mae Camlas Sir Fynwy yn ymuno ag afon Wysg. Hon yw ardal dociau Casnewydd; er bod y rhan fwyaf o Ddoc y Dref wedi ei lenwi bellach, mae Dociau Alexandra yn parhau i fod a dŵr ynddynt. Ceir marchnad wartheg fawr yn Stryd Ruperra.
Roedd y bardd W. H. Davies yn enedigol o Bilgwenlli.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jessica Morden (Llafur).[2][3]