Term mantell a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth lydan o fudiadau crefyddol modern sydd wedi eu dylanwadu'n rhannol gan gredoau paganaidd cyn-Gristionogol Ewropeaidd yw neo-baganiaeth.[1][2] Mae mudiadau crefyddol neo-baganaidd yn amrywiol iawn, a gellid cynnwys credoau amldduwiol, animistaidd, a phantheistaidd. Mae llawer o neo-baganiaid yn ymarfer ysbrydolrwydd sy'n hollol fodern, tra bod eraill yn ceisio ail-lunio neu adfywio crefyddau brodorol, ethnig gyda ffynonellau hanesyddol neu ffynonellau llên gwerin.[3]
Mae'n ddatblygiad o fewn gwledydd datblygedig, megis yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, ond hefyd gwledydd eraill megis Ewrop Gyfandirol (Yr Almaen, Llychlyn, Ewrop Slafaidd, Ewrop Ladinaidd ac eraill). Wica yw'r grefydd fwyaf o fewn neo-baganiaeth, ond mae crefyddau eraill sydd â chymaint o ganlynwyr yn cynnwys neo-dderwyddiaeth, Ásatrú, a neo-baganiaeth Slafaidd.