Math o ffwng ydy madarchen (neu grawn unnos; weithiau bwyd y boda neu shrwmps) sy'n llawn o sborau (neu "grawn") ac sy'n tyfu fel arfer ar wyneb y tir.[1] Gall y gair gyfeirio at un math arbennig o fadarch bwytadwy hefyd, sef Basidiomycota a'r Agaricomycetes gwynion, gyda choesyn, cap a thagell llwyd ar ochr isod y cap. Nid oes gan bob madarchen gap.
Gair arall am fadarch sydd a thagell ydy "agarics", gan eu bont yn eitha tebyg i'r Agaricus.