Teyrnas Lesotho Naha ea Lesotho (Sesotho) | |
Arwyddair | Y Frenhiniaeth yn yr Awyr |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, clofan, gwlad dirgaeedig, teyrnas, gwlad |
Enwyd ar ôl | Sesotho |
Prifddinas | Maseru |
Poblogaeth | 2,007,201 |
Sefydlwyd | 4 Hydref 1966 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Lesotho Fatse La Bontata Rona |
Pennaeth llywodraeth | Sam Matekane |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Maseru |
Gefeilldref/i | Gummersbach |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Sesotho |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Affrica |
Gwlad | Lesotho |
Arwynebedd | 30,355 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | De Affrica |
Cyfesurynnau | 29.55°S 28.25°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Lesotho |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Lesotho |
Pennaeth y wladwriaeth | Letsie III, brenin Lesotho |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Lesotho |
Pennaeth y Llywodraeth | Sam Matekane |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,373 million, $2,553 million |
Arian | Maloti, Rand De Affrica |
Canran y diwaith | 26 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.185 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.514 |
Gwlad dirgaeedig yn Ne Affrica yw Lesotho, yn ffurfiol Teyrnas Lesotho. Fel clofan o fewn De Affrica, mae'n rhannu 1,106 cilometr (687 mi) o ffin â'r wlad honno,[1] dyma'r clofan sofran mwyaf yn y byd, a'r unig un y tu allan i Orynys yr Eidal. Fe'i lleolir ym Mynyddoedd Maloti ac mae'n cynnwys y copa uchaf yn Ne Affrica.[2] Mae ganddi arwynebedd o dros 30,000 metr sgwâr (12,000 milltir sgwâr) ac mae ganddi boblogaeth o tua dwy filiwn, 1.3 miliwn yn llai na Chymru yn 2024. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Maseru. Mae'r wlad hefyd yn cael ei hadnabod wrth y llysenw Teynas y Myndydd.[3] Mae hi'n wlad annibynnol ers 1966.
Mae'r grŵp ethnig Sotho (a elwir hefyd yn Basotho), sef tarddiad enw'r wlad, yn 99.7% o gyfanswm ei phoblogaeth, sy'n ei gwneud yn un o'r poblogaethau mwyaf homogenaidd yn y byd o ran ethnigrwydd. Eu hiaith frodorol, Sesotho, yw'r iaith swyddogol ynghyd â Saesneg. Ystyr yr enw Lesotho yw "gwlad y siaradwyr Sesotho".[4][5]
Ffurfiwyd Lesotho ym 1824 gan y Brenin Moshoeshoe I. Fe wnaeth herio a thresmasu parhaus gan ymsefydlwyr o'r Iseldiroedd orfodi'r Brenin i ddod i gytundeb â'r Ymerodraeth Brydeinig (hynny yw, Lloegr) i ddod yn warchodwr ym 1868 ac yn 1884, yn drefedigaeth y goron. Enillodd annibyniaeth yn 1966, ac wedi hynny cafodd ei rheoli gan Blaid Genedlaethol Basotho (BNP) am ddau ddegawd. Adferwyd ei lywodraeth gyfansoddiadol yn 1993 ar ôl saith mlynedd o reolaeth filwrol. Alltudiwyd y Brenin Moshoeshoe II ym 1990 ond dychwelodd yn 1992 ac fe'i gwnaed yn frenin eto yn 1995. Flwyddyn yn ddiweddarach, bu farw Moshoeshoe II a chymerodd ei fab Letsie III yr orsedd; yn 2024 roedd yn dal yn ei swydd.[1] Mae Lesotho yn cydnabod Gwladwriaeth Palestina.
Ystyrir Lesotho yn wlad incwm canolig is gyda heriau economaidd-gymdeithasol sylweddol. Mae bron i hanner ei phoblogaeth o dan y llinell dlodi, a'r gyfradd o HIV/AIDS yn y wlad yw'r ail uchaf drwy'r byd. Fodd bynnag, mae hefyd yn targedu cyfradd uchel o addysg gynradd gyffredinol ac mae ganddi un o'r cyfraddau llythrennedd uchaf yn Affrica (81% yn 2021). Mae Lesotho yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, y Mudiad Anghydweddol, y Gymanwlad y Cenhedloedd, yr Undeb Affricanaidd, a Chymuned Datblygu De Affrica. Yn ôl mynegeion Democratiaeth V-Dem 2023, mae Lesotho yn safle 64 o ran democratiaeth etholiadol ledled y byd ac yn 7fed democratiaeth etholiadol yn Affrica.[6]