Tuaisceart Éireann Northern Ireland | |
Arwyddair | Quis separabit? |
---|---|
Math | gwledydd y Deyrnas Unedig |
Prifddinas | Belffast |
Poblogaeth | 1,852,168 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC±00:00, Europe/Belfast, UTC+01:00 |
Nawddsant | Sant Padrig |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gwyddeleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Iwerddon |
Arwynebedd | 14,130 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.6075°N 6.6925°W |
Cod SYG | N92000002 |
GB-NIR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gogledd Iwerddon |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gogledd Iwerddon |
Arian | punt sterling |
Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.
Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.
Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - 'Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."