Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Gigthis

Gigthis
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMédenine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau33.5389°N 10.6733°E Edit this on Wikidata
Map

Safle dinas hynafol yw Gigthis (Arabeg: جكتيس), hefyd Gigthi neu Gightis weithiau, a leolir yn ne Tiwnisia, yn gouvernorat (talaith) Médenine.

Lleolir y safle 20okm i'r de o borthladd Jorf, ger arfordir Gwlff Boughrara, gyferbyn ag ynys Djerba, ar lwybr y ffordd hynafol a gysylltai Carthago (ger Tiwnis) a Leptis Magna yn Libia.

Sefydlwyd y ddinas gan y Ffeniciaid ac erbyn y 6g CC roedd yn rhan o diroedd Carthago. Erbyn y ganrif 1af OC roedd Gigthis yn ddinas ddigon nodedig. Yn yr 2il ganrif OC rhoddwyd iddi statws dinas Rufeinig gan yr Ymerodr Antoninus Pius. Ar ôl hynny tyfodd y ddinas a daeth yn un o'r porthladdoedd masnachol mwyaf ffyniannus yn ne Tiwnisia.

Gigthis.

Yng nghanol Gigthis ceir y fforwm (forum) Rhufeinig. O gwmpas y fforwm ceir sawl teml ac adeilad dinesig, yn cynnwys y capitol, canolfan ddinesig y ddinas. Ar ymylon y safle ceir olion sawl fila a addurnid â mosaics lliw neu ddu-a-gwyn.


Previous Page Next Page






جكتيس Arabic Gightis Catalan Gigthis German Gigthis Spanish Gigthis French Gigthis Portuguese

Responsive image

Responsive image