Enghraifft o'r canlynol | carennydd |
---|---|
Math | brawd neu chwaer biolegol, genedigaeth luosog |
Rhan o | gefeilliaid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o ddau epil yw gefell (lluosog: gefeilliaid), sy'n ganlyniad o'r un beichiogrwydd; fel arfer caiff gefeilliaid eu geni yn agos iawn at ei gilydd. Gallant fod yr un rhyw, neu o wahanol ryw. Ceir gefeilliaid monosygotaidd (monozygotic/MZ, hefyd: "gefeilliaid unwy", "gefeilliaid unfath" a "gefeilliaid un ffunud") a gefeilliaid deusygotaidd (dizygotic/DZ, hefyd: "gefeilliaid deuwy", "gefeilliaid brawdol" yn ogysta; â "heb fod yn unfath", "annhebyg" neu "gwahanol").