Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Eglwys Sant Cadfan, Tywyn

Eglwys Sant Cadfan
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTywyn Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.588°N 4.0853°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Romanésg Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iCadfan Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Eglwys Sant Cadfan (weithiau Eglwys Cadfan Sant neu Eglwys Cadfan) yn Nhywyn, Gwynedd. O Lydaw y daeth Cadfan, gyda deuddeg o'i dylwyth. Mae rhai rhestrau yn rhoi cymaint a 25 o enwau.[1] Sefydlodd llan, sef cymuned Gristnogol tua 580. Tyfodd i fod yn clas; 'Llain y Clas'[2] (Saesneg: College Green) yw enw'r stryd gyferbyn a tu ôl i'r eglwys.

Noda Brut y Tywysogion i'r eglwys gael ei distrywio gan y Llychlynwyr yn 963, ac yn ystod y 12g canmolwyd yr eglwys mewn awdl gan Llywelyn Fardd (I). Mae rhannau cynharaf yr eglwys yn dyddio i'r 12g, ac yn wreiddiol yr oedd ganddi dŵr canolog, ond dymchwelodd hwnnw yn 1693.[3]

Oddi fewn, ceir dau feddfaen o'r 14g, gydag un yn perthyn i offeiriad dienw, tra credir mai bedd Gruffudd ab Adda (m. c. 1350) o Ddôl-goch ac Ynysymaengwyn yw'r llall. Gelwir y beddfaen hwnnw 'Y Marchog sy'n Wylo' gan fod nam yn y garreg ar y llygaid dde sy'n casglu gwlybaniaeth mewn tywydd gwlyb, gan roi'r argraff o wylo.[4]

Prif drysor yr eglwys hon yw Carreg Cadfan; arni mae'r arysgrif Gymraeg hynaf y gwyddys amdani. Fe'i hysgrifennwyd tua dechrau'r 9g, os nad cynt.

Saif hen ficerdy'r eglwys, a adeiladwyd yn rhan gyntaf y 19g, ar National Street. Tŷ preifat ydyw bellach dan yr enw 'Tŷ Cadfan Sant Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback'. Enwyd National Street (Duck Street cyn hynny) ar ôl y National School, sef yr ysgol eglwysig a oedd gynt ar y stryd honno.

Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Gwynedd
Y tu mewn i Eglwys Sant Cadfan
  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Publishing (2000)
  2. Cyfrifiad 1851
  3. E. D. Evans, "A Tywyn brief of 1694", Cylchgrawn Cydmeithas Hanes Sir Feirionnydd 13.2 (1999), tt.184–5
  4. Andrew Davidson, "Parish Churches", yn History of Merioneth, cyf.2: The Middle Ages, gol. J. Beverley Smith a Llinos Beverley Smith (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001), tt.369–70

Previous Page Next Page






كنيسه القديس كدفان ARZ St Cadfan's Church, Tywyn English

Responsive image

Responsive image