Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Cylch yr Ulaid

Cylch yr Ulaid neu Gylch Wlster, a elwid gynt yn Cylch y Gangen Goch, yw'r corff mawr o ryddiaith a barddoniaeth Wyddeleg sy'n rhoi hanes arwyr yr Ulaid, yn yr hyn sy'n awr yn nwyrain Ulster. Mae'n un o'r pedwar cylch mawr yn chwedloniaeth Iwerddon.

Mae'r cylch yn ymdrin â theyrnasiad Conchobar mac Nessa, y dywedir ei fod yn frenin Wlster tua amser Iesu Grist. Roedd yn teyrnasu o Emain Macha (Navan Fort ger Armagh heddiw), ac roedd gelyniaeth rhyngddo ef a Medb, brenhines Connacht a'i gŵr Ailill mac Máta. Prif arwr y cylch yw nai Conchobar, Cúchulainn.


Previous Page Next Page