Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Cilium

Cilium
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKasserine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.167856°N 8.798446°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas Rufeinig yn Nhiwnisia yw Cilium. Fe'i lleolir fymryn i'r de-orllewin o ddinas Kasserine yn y dalaith o'r un enw, yng ngorllewin canolbarth y wlad tua 30 km o'r ffin ag Algeria.

Bu Cilium yn ganolfan ranbarthol o bwys yn nhalaith Affrica yng ngyfnod y Rhufeiniaid. Saif ar fryn isel ger afon Oued Dhrib. Ceir adfeilion theatr Rufeinig fawr yno, wedi'i cherfio yn llethr y bryn, a bwa fuddugoliaeth. Maent yn dyddio o'r 3g OC. Yn ogystal ceir adfeilion y fforwm a'r capitol, a'r baddonau cyhoeddus. Ceir ambell heneb o'r cyfnod Rhufeinig yn ninas Kasserine ei hun, yn cynnwys Mawsolewm y Flavii, a godwyd fel cofeb i Flavius Secundus a'i deulu.[1]

Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael codwyd caer yn Cilium gan y Bysantiaid.[2]

  1. David Willet, Lonely Planet: Tunisia (2001), tud. 241.
  2. Hedi Slim ac eraill, L'Antiquité (Tiwnis, 2003), tud.396.

Previous Page Next Page








Responsive image

Responsive image