Camelod | |
---|---|
Dromedari (Camelus dromedarius) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Camelidae |
Genws: | Camelus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
Camelus bactrianus |
Carnolyn mawr sy'n cnoi ei gil, a chanddo goesau main, hir, gyda chrwb neu ddau ar ei gefn yw'r camel. Mae’r camel wedi’i ymaddasu’n arbennig i fyw mewn diffeithdiroedd yn ei allu i fyw ar blanhigion dreiniog gwydn, yn ei allu i gadw dŵr ym meinwe’r corff, ac yn ei draed gyda gwadnau llydan trwchus a chaled a charnau bychain ar flaenau bysedd y traed. Gweithreda'r crwb fel storfa braster a gall oroesi am gyfnodau hiri heb fwyd na diod. Mae'r dromedari (camel uncrwb, camel rhedeg) yn byw yn Arabia a gogledd Affrica; mae'r camel deugrwb yn byw yng nghanolbarth Asia.
Mae camelod yn anifeiliaid gwaith a ddefnyddir gan ddyn i gludo teithwyr a chargo. Ceir tair rhywogaeth: y camel dromedari un crwb (sef 94% o boblogaeth camel y byd), y camel Bactria deugrwb (C. bactrianus) ac sy'n 6%. Y drydedd rhywogaeth yw'r camel Bactria gwyllt (C. ferus) sy'n rhywogaeth ar wahân ac sydd bellach mewn perygl difrifol.
Defnyddir y gair camel hefyd yn anffurfiol mewn ystyr ehangach, a'r term mwy cywir yw "camelid", i gynnwys pob un o'r saith rhywogaeth o'r teulu Camelidae : y camelod gwirioneddol (y tair rhywogaeth uchod), ynghyd â chamelidau'r Byd Newydd: y lama, yr alpaca, y guanaco, a'r ficuña.[1] Daw'r gair ei hun o'r Lladin: camelus a'r Groeg (kamēlos) sy'n tarddu o'r Hebraeg, Arabeg neu Phoenician: gāmāl.[2]