Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyrdd, stribed canol gwyn, a stribed is du, gyda stribed coch fertigol yn yr hoist yw baner yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae lliwiau'r faner yn lliwiau pan-Arabaidd, ond dywedir hefyd bod gwyrdd yn symboleiddio coed a ffrwythlondeb, gwyn yn symboleiddio niwtraliaeth, a du yn cynrychioli cyfoeth olew yr emiradau. Coch oedd lliw hanesyddol baneri'r emiradau unigol. Mabwysiadwyd y faner ar 2 Rhagfyr 1971.