Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyrdd, coch, gwyn, melyn |
Dechrau/Sefydlu | 19 Chwefror 1992 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifir baner Tyrcmenistan (Turkmeneg: Türkmenistanyň baýdagy, Түркменистаның байдагы) fel Maes gwyrdd ac arno pum seren wen a chilgant a stribed fertigol coch ger y hòs yw baner Tyrcmenistan. Ar hyd y stribed coch darlunir pum patrwm carpedi traddodiadol, uwchben torch olewydd. Mae'r stribed goch yn ddarlun o garpedi enwog y wlad.
Cyflwynwyd y faner ar 27 Medi 1992 gan ddisodli baner Sofietaidd y wlad (gw. isod). Newidiwyd cymeseredd y faner rhywfaint ar 24 Ionawr 2001 gan fabwysiadu ratio 2:3.