Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Baner Sawdi Arabia

Baner Saudi Arabia

Maes gwyrdd gydag arysgrif Arabeg a chleddyf gwyn yw baner Sawdi Arabia. Gwyrdd yw lliw Islam, tra bo'r cleddyf yn symboleiddio cyfiawnder. Y shahadah, Cyffesiad y Ffydd Islamaidd, yw'r arysgrif sydd yn darllen "Un Duw sydd a Muhammad yw Ei Broffwyd". Mae'n debyg iawn i faner yr enwad Wahabi, a ddefnyddiwyd ers 1901. Cyflwynwyd baner Sawdi Arabia ym 1932, a mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 15 Mawrth 1973.

Dydy baner Arabia Sawdi byth yn cael ei chwifio ar hanner mast hyd yn oed mewn achos o gydnabod marwolaeth neu trasiedi. Dyfernir ei fod yn gableddus i wneud. Ymysg y baneri eraill na chaiff byth eu chwifio ar hanner mast mae Irac, Afghanistan a Somaliland.


Previous Page Next Page