Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Microgenedl

Microgenedl
Enghraifft o'r canlynolformer or current state Edit this on Wikidata
Mathquasi-state Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae Tywysogaeth Sealand yn ficrogenedl wedi'i leoli ym môr oddi ar arfordir y Deyrnas Unedig.

Mae microgenedl yn endid gwleidyddol y mae ei aelodau'n honni eu bod yn perthyn i genedl annibynnol neu wladwriaeth sofran, sydd heb gydnabyddiaeth gyfreithiol gan lywodraethau'r byd neu sefydliadau rhyngwladol mawr.[1] Mae'r mwyafrif yn fach iawn, ond yn gallu amrywio o un droedfedd sgwâr i filiynau o filltiroedd sgwâr (Westarctica). Maent fel arfer yn tyfu allan o un unigolyn.

Mae microgenedl yn mynegi honiad ffurfiol a pharhaus dros ryw diriogaeth gorfforol, er na fu chydnabyddiaeth o'r sofraniaeth. Mae microgenhedloedd yn wahanol i wir symudiadau ymwahaniaeth; mae gweithgareddau microgenhedloedd bron bob amser yn ddigon dibwys i gael eu hanwybyddu yn hytrach na'u herio gan y cenhedloedd sefydledig y maent yn honni eu tiriogaeth. Mae sawl microgenedl wedi cyhoeddi darnau arian, baneri, stampiau post, pasbortau, medalau ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth, yn aml fel ffynonellau refeniw.

Dechreuodd peth o'r hyn a allai bellach gael ei ystyried yn ficrogenhedloedd yn yr 20fed ganrif. Daeth y rhyngrwyd yn ffordd i bobl greu llawer o ficrogenhedloedd newydd, gyda'u haelodau wedi'u gwasgaru ledled y byd ac yn rhyngweithio'n bennaf trwy ddulliau electronig, yn aml yn alw eu cenhedloedd yn "wledydd crwydrol". Mae'r gwahaniaethau rhwng "microgenhedloedd y rhyngrwyd", mathau eraill o grwpiau rhwydweithio cymdeithasol, a gemau chwarae rôl, yn aml yn anodd eu diffinio.[2]

Mae'r term "microgenedl" i ddisgrifio'r endidau hyn yn dyddio o leiaf i'r 1970au.[3] Defnyddir y term micropatrioleg weithiau i ddisgrifio'r astudiaeth o ficrogenhedloedd a microwladwriaethau gan ficrogenedlaetholwyr. Mae rhai ohonynt yn cyfeirio at cenedl-wladwriaethau sofran fel "macrogenhedloedd".

Mae microgenhedloedd yn cyferbynnu â microwladwriaethau, sef wladwriaethau sofran bach ond cydnabyddedig megis Andorra, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Monaco, San Marino, a'r Fatican.[4] Maent hefyd yn wahanol i wledydd dychmygol ac i fathau eraill o grwpiau cymdeithasol (megis eco-bentrefi, campysau, llwythau, claniau, sectau, a chymdeithasau cymunedol preswyl).

  1. Sawe, Benjamin. "What Is a Micronation?". World Atlas: World Facts. World Atlas. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2017.
  2. Mateusz Kudła,"Jak zostać premierem nie odchodząc od komputera" (yn Polish). onet.pl. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 27 Ebrill 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. The People's Almanac #2, page 330.
  4. Sack, John; Silverstein, Shel (1959). Report from practically nowhere. Harper.

Previous Page Next Page