Bwndel neu fwrn o goed tanwydd yw ffagod. Yn y gorffennol, gwahaniaethid rhwng ffagod fer 90 cm (3 troedfedd) o hyd a 60 cm (2 droedfedd) o led, a ffagod hir, a oedd yn fwy.[1] Defnyddid ffagodau hir o ryw 4 i 6 metr (13 i 20 metr) o hyd a 20 i 23 cm (8 i 9 modfedd) o led, i gynnal cloddiau a ffosydd.[2][3][4] Cyfeirir y gair ffagod hefyd at uned a ddefnyddiwyd i bwyso barrau haearn a dur, sef 54 kg (120 pwys).[1]
Daw'r gair i'r Gymraeg o'r Saesneg faggot[5] sydd ei hun yn air benthyg o'r Lladin fasces ac felly yn perthyn i'r gair ffasgydd oherwydd bod Benito Mussolini yn defnyddio'r hen ffagod Rufeinig fel symbol o'i achos. Mae hyn hefyd yn golygu bod y gair yn gytras â'r gair Cymraeg brodorol baich.